Mae Hiraeth Yn Y Môr - Moderato Testo

Testo Mae Hiraeth Yn Y Môr - Moderato

Mae hiraeth yn y mor a'r mynydd maith
Mae hiraeth mewn distawrwydd ac mewn can
Mewn murmur dyfroedd ar dragwydd daith
Yn oriau'r machlud ac yn fflamau'r tan
Ond mwynaf yn y gwynt y dwed ei gwyn
A thristaf yn yr hesg y cwyna'r gwynt
Gan ddeffro adlais adlais yn y brwyn,
Ac yn y galon, atgof atgof gynt

Fel pan wrandawer yn y cyfddydd hir
Ar gan y ceiliog yn y glwyd gerlaw:
Yn deffro caniad ar ol caniad clir
O'r gerddi agos, nes o'r llechwedd draw
Y cwyd un olaf ei leferydd ef
A mwynder trist y pelter yn ei lef.
Artisti per lettera
a b c d e f g h i j k l m n o p q r s t u v w x y z 0 1 2 3 4 5 6 7 8 9
Privacy Policy
Privacy & Cookie Policy